Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

NEWID YN YR HINSAWDD, CYMRU

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer targedau allyriadau interim o dan Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Diben Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 29 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf 80% yn is na gwaelodlin 1990.

Mae adran 30 yn ei gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau er mwyn gosod targedau allyriadau interim ar gyfer y blynyddoedd 2020, 2030 a 2040. Mae’r targedau hyn yn cael eu mynegi fel canran islaw’r waelodlin.

Mae rheoliad 3 yn gosod targedau i leihau cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer blynyddoedd targed interim 2020, 2030 a 2040.

Yn unol ag adran 32 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y targedau allyriadau interim yn gyson â chyrraedd targed 2050, ac wrth ddrafftio’r Rheoliadau hyn maent wedi rhoi sylw i’r ffactorau a restrir yn adran 32(3).

Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

NEWID YN YR HINSAWDD, CYMRU

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                                           ***

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016([1]).

Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—

(a)     wedi eu bodloni bod pob targed allyriadau interim yn cael ei osod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, yn unol ag adran 32(1) o’r Ddeddf;

(b)     wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf; ac

(c)     wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd([2]), ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 30(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

 

Targedau Allyriadau Interim

2.(1)(1) Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2020 yw 27% islaw’r waelodlin.

(2) Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2030 yw 45% islaw’r waelodlin.

(3) Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2040 yw 67% islaw’r waelodlin.

 

Enw,

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

 



([1])           2016 dccc 3.

([2])           Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yw’r corff cynghori perthnasol i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 44(3) o Ddeddf 2016.